Rydym wedi ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru i geisio ffordd newydd o ddeall pam fod nifer sylweddol o bobl yn y fwrdeistref yn dewis peidio ag ailgylchu eu gwastraff bwyd.
Mae ailgylchu gwastraff bwyd fel rhan o’r casgliad gwastraff bwyd wythnosol yn hawdd ac yn lân trwy ddefnyddio’r blychau cloadwy yr ydym yn eu darparu am ddim. Serch hynny, dim ond tua 61 y cant o gartrefi sydd â’r dewis o ailgylchu eu gwastraff bwyd sy’n ei osod allan i’w gasglu.
Share
Share on Twitter Share on Facebook